Pont

Oddi ar Wicipedia
Pont y Borth

Adeiladir pont i helpu pobl, cerbydau neu ddŵr i groesi dyffryn neu gwm, ffordd neu reilffordd, neu hyd yn oed afon. Yr enw am bont sy'n cludo dŵr ydy traphont.

Daw’r gair ‘pont’ o’r Lladin. Felly hefyd y gair Ffrangeg ‘pont’ sydd yn gyfystyr â ‘phont’ yn Gymraeg.

Mae dihareb enwog yn Gymraeg yn seiliedig ar y chwedl yn y Mabinogi pan fo'r cawr Bendigeidfran yn gorwedd ar draws afon yn ystod ei gyrch yn Iwerddon fel bod y Cymry yn gallu teithio dros ei gefn ar draws yr afon. A fo ben, bid bont.

Boncyffion cryfion wedi eu gosod ar draws afon oedd y pontydd cyntaf. Gwelir y gair mewn nifer o enwau lleoedd yng Nghymru, megis Pontardawe, Pontarddulais, Pontypridd, Pontarfynach, Pen-y-Bont-ar-Ogwr, Pont-y-pŵl .

Bu’r Rhufeiniaid yn ddiwyd yn adeiladu pontydd gan wneud defnydd helaeth o bontydd cychod a phontydd o bren. Gwnaethant hefyd ddefnyddio’r dechnoleg pensaernïol o adeiladu gyda cherrig ar ffurf bwa, gan adeiladu pontydd cerrig digon cryf i barhau hyd heddiw. Fe geir pontydd bwa o oes y Rhufeiniaid o hyd yn Ffrainc, yr Eidal a Sbaen, e.e. pont Alcántara yn Sbaen. Yn ogystal â chario heolydd defnyddiai’r Rhufeiniaid bontydd i gario dŵr (aquae ductus).

Parhaodd mynachod Ewrop â’r gwaith o adeiladu pontydd ar draws Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd. Dyma darddiad teitl y pab ‘’pontifex maximus’’, sef y prif adeiladwr pontydd.

Mae nifer fawr o wahanol fathau o bontydd.

Un math yw Pont Gludo.

Pontydd Enwog Cymru[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • D. Gwyn Jones, Rhamant y Pontydd (Llyfrau’r Dryw, 1969) – llyfr cyffredinol sy’n cynnwys enghreifftiau o bontydd Cymreig o wahanol fathau.
  • Evan Jones, Balchder Crefft (Christopher Davies, 1976) - pennod 5 yn ymdrin â seiri maen Ceredigion.
  • A.O. Chater, "Inscriptions on Bridges in Ceredigion", Gylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion 8:3
Chwiliwch am pont
yn Wiciadur.