Draenog

Oddi ar Wicipedia
Draenogod
Y draenog Ewropeaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Erinaceomorpha
Teulu: Erinaceidae
Is-deulu: Erinaceinae
G. Fischer, 1814
Genera

Anifail bach pigog yw'r draenog. Canodd y bardd Alan Llwyd gywydd yn cynnwys y llinellau:

Gweld draenog a'i frys cogio
Yn chwim ei arafwch o,
A'i weld o yn cau fel dwrn
Wedi ei wasgu hyd asgwrn.[1]

Mae’r draenog yn aelod o urdd hynafol y pryfysolion, sydd o leiaf 130 miliwn o flynyddoedd oed ac yn un o’r grwpiau hynnaf ymysg y mamaliaid. Mae’n greadur adnabyddus gyda oddeutu 5,000 o bigau i amddiffyn ei gorff rhag gelynion. Ei brif elyn erbyn hyn, heblaw pobl yn eu ceir, yw y mochyn daear sy’n gallu agor draenog fydd y wedi rowlio’n belen gyda’i grafangau mawr cryfion a gwledda arno.

Perthynas â Dyn[golygu | golygu cod]

Pla

Efallai mai y lladdwyr draenogod mwyaf oedd ciperiaid stadau’r 19eg ganrif. Byddai unrhyw greadur a amheuid o amharu ar helfa lordyn y stâd yn agored i gael ei ddifa ganddynt yn ddi-drugaredd. Ac am mai ar lawr y nytha ffesantod, petris a grugieir, byddai draenog yn darged. Ar un stad yn nwyrain Lloegr cofnodwyd bod 20,000 o ddraenogod wedi eu difa gan giperiaid dros gyfnod o 50 mlynedd yn y 19eg ganrif[2]

Bwyd

Byddai'r Roma neu Sipsiwn yn hoff iawn o rostio draenog, wedi ei ladd a’i blastro mewn haen drwchus o glai a’i roi yn y tân. Yna, pan fyddai’n barod, cracio’r clai, ac wrth ei agor fe fyddai’r pigau yn dwad i ffwrdd yn sownd yn y clai gan adael y cig yn gyfleus i’w fwyta. Blas fel porc yn ôl y son.

Chewch chi ddim bwyta draenog heddiw am ei fod yn cael ei warchod dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. Bu raid i un cwmni creision tatws o Bowys gynhyrchodd greision blas draenog yn 1981, roi’r gorau iddi. Am na allent ddefnyddio draenogod go iawn i greu’r blas roedd eu disgrifiad o ‘flas draenog’ yn gamarweiniol ac felly’n groes i’r deddfau hysbysebu gonest.

Dioddefwr anfwriadol

Mae tanio coelcerth ddiwedd y flwyddyn neu dros y gaeaf yn beryglus i'r draenog. Dyma ddywed Twm Elias[3]: "Cofiwch chwilio yn gyntaf, cyn rhoi matshian iddi, jyst rhag ofn bod yna ddraenog yn llochesu neu yn gaeafgysgu ynddi – yn enwedig os bu’r doman goed yno ers sbel a llawer o ddail crîn wedi hel yn ei gwaelod. Mae draenogod weithiau yn cael eu niweidio yng nghoelcerthi Noson Tân Gwyllt ar Dachwedd y 5ed.[4]

Llên Gwerin[golygu | golygu cod]

Sugno’r gwartheg?[golygu | golygu cod]

Coel gyffredin oedd bod draenogod yn sugno tethi gwartheg yn y caeau yn y nos pan fyddent wedi gorwedd i gysgu. A phe ceid buwch yn hesb yn y bore, neu â’i thethi wedi chwyddo, ef gai’r bai! Er hynny, cadwai rhai feddwl ychydig mwy agored: “..pa un ai y draenog neu y sipsiwn a fu wrth y gwaith, dichon na cheir allan hyd ddydd y cyfrif”[5]

Go brin y gwnaiff draenog sugno gwartheg – ’dydy ei geg ddim wedi ei gwneud i’r gwaith hwnnw beth bynnag, er y gwnaiff ambell un lyfu blaen teth sydd eisoes yn diferyd o lefrith efallai? Mae’n haws o lawer credu bod y goel ryfedd hon wedi ei chychwyn gan y gwir lardon llefrith – a rhai deudroed fyddai rheiny!

Bwyta wyau[golygu | golygu cod]

Cyhuddiad arall yn erbyn yr un pigog oedd ei fod yn bwyta wyau. Efallai bod mwy o sail i’r amheuaeth hon am fod draenogod yn giamstars ar ddwyn wyau unrhyw dderyn sy’n nythu ar lawr os nad yw’n ddigon mawr i amddiffyn ei nyth. Dyna pam y pasiwyd Deddf yn Oes y Tuduriaid, yn 1532 a 1566 yn datgan bod Draenogod yn ‘Fermin’ – a thalwyd bownti am eu cyrff. Ceir cyfeiriadau at hynny yng Nghofnodion Festri sawl Eglwys, e.e. Cyfrifon Warden Eglwys Llanasa, 1810-1811 yn nodi taliad o 1/6 am 9 draenog – 2 geiniog yr un, arfer a barhaodd tan Oes Fictoria. Bryd hynny ni fyddai’n anarferol gweld cyrff draenogod, llwynogod a ffwlbartod yn crogi oddiar ganghennau ywen yn y fynwent i brofi bod y Warden yn gwneud ei waith[6]

Tebyg mai hoffter y draenog o wyau oedd yn gyfrifol am y driniaeth greulon gawsai gan rai. Dyma ddywed y Parch DG Williams am hyn yn yr hen Sir Gaerfyrddin[5]: “…diala bechgyn y wlad ar y draenog drwy hen chwarae creulon. Naddant bren, a gwnant ddannedd iddo fel llif: …clymant linyn am un o’i goesau a llifiant hi a’r pren daneddog. Gwna y draenog leisiau truenus, ac er mwyn y difyrwch o’i glywed y gwneir hyn oll!”

Dwyn afalau[golygu | golygu cod]

Coel arall yw bod y draenog yn dwyn afalau!? Dyma grêd gyffredin drwy Ewrop gyfan, er mai dwyn mefus oedd y prif gyhuddiad yn Sbaen a grawnwin yn yr Eidal. Y syniad oedd bod y draenog yn mynd i’r berllan yn yr Hydref ac yn rowlio ar afalau cwympiedig, nes eu bod yn sticio ar y pigau, a’r creadur bach wedyn yn mynd â nhw adra ar ei gefn!

Tybed sut y cododd y fath syniad? Efallai bod rhywun wedi gweld draenog efo afal bychan wedi disgyn o goeden ac wedi digwydd sticio ar ei bigau? Rhywbeth pur anghyffredin mae’n rhaid dweud, ond bod y dychymyg yn dueddol o wneud yr anarferol yn rheol, gan esgor yn y diwedd ar goel werin.

Lladd nadroedd[golygu | golygu cod]

I weld os oedd sail i’r grêd bod draenogod yn lladd nadroedd cynhaliodd yr Athro Buckland, Rhydychen arbrawf yn 1830 i weld os oedd hynny’n wir neu beidio[2]. . Rhoddodd ddraenog a neidr mewn bocs efo’i gilydd. Pan welodd y draenog y neidr fe roddodd frathiad go hegr iddi a rowlio’n belan ar amrantiad – fel bod ei bigau yn ei arbed rhag brathiadau’r neidr. Yna agor, brathu a rowlio’n belen sawl gwaith. Yn y diwedd roedd y draenog wedi llwyddo i falu esgyrn yr hen sarff o’i phen i’w chynffon a’i lladd. Yna, dechreuodd wledda, gan gychwyn o’r gynffon, a’i bwyta i gyd!

Draenogod defnyddiol[golygu | golygu cod]

Ystyrid y gallai draenog ragweld y tywydd, a’i fod “…yn diogelu ei lochesau gyda mwy o ofal nag arferol yn arwydd o dywydd blin ac ystormus.”[7]

Ystyrid hefyd ei fod yn ddefnyddiol yn feddyginiaethol [4]. Dywed rhai hen rysetiau meddygol fod dagrau draenog yn dda iawn i wella llygaid gweinion? A beth am y grêd ddifyr o Swydd Lincoln bod cadw asgwrn gên draenoges yn eich poced yn dda ar gyfer cryd cymalau.

Hen feddyginiaeth ar gyfer ffitiau dywedir oedd bwyta draenog wedi’i rostio.

Cadwraeth[golygu | golygu cod]

Daeth trachwant y draenog am wyau (gweler uchod) yn amlwg iawn yn dilyn cyflwyno ychydig o ddraenogod i ardd ar Ynys De Uist yn yr Alban yn 1974[8]. Ni bu erioed ddraenogod yma cynt a meddyliai’r cyflwynwr y buasent yn dda i ddifa malwod yn ei ardd ar yr ynys. Ac fe oedden nhw. Ond buan y crwydrodd y malwotwyr o’r ardd a chael eu hunnain mewn nefoedd ddraenogaidd oherwydd yr holl adar, megis y coesgoch, pibydd y mawn a’r gornchwiglen ayyb, oedd yn nythu yn eu miloedd yno yn y gweirgloddiau a’r corsydd. O fewn chydig o flynyddoedd roedd y boblogaeth o adar, oedd o bwys rhyngwladol, wedi ei hanneru a’r draenogod, oherwydd eu bod yn nofwyr da, wedi dechrau coloneiddio ynysoedd cyfagos Gogledd Uist a Benbecula. Bu raid i’r awdurdodau wario £3.5 miliwn i ddatrus y broblem, drwy ddal a difa cannoedd o ddraenogod ac yna, oherwydd protestio gan bobl o’r tir mawr am y dull hwn o ddi-ddraenogi’r ynysoedd, eu dal yn fyw a’u trosglwyddo i’r tir mawr. Yno cawsant eu rhyddhau mewn cynefinoedd addas ac i ail-stocio ardaloedd yn Lloegr lle roeddent wedi prinhau dros y blynyddoedd. Dyma enghraifft arall o beryglon cyflwyno rhywogaeth estron yn fwriadol i gynefin newydd heb feddwl be fyddai’r canlyniadau.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Draenog wedi ei fachu ar weiren bigog

Dywedir i’r nifer o ddraenogod ym Mhrydain ostwng o 35 million yn yr 1950au i lai na miliwn heddiw. Ceir, pelenni malwod, waliau solat o gwmpas gerddi a chynnydd yn y boblogaeth moch daear yw rhai o’r ffactorau sydd yn cael y bai. Ydi hyn yn wir am Gymru? Rhwng 1989 a 1991 bu’r golygydd yn cyfri cyrff ar y ffordd. Mae’r graff uchod yn crynhoi’r cyfrif o ddraenogod fesul mis. Mis Mai yw’r penllanw - 31 draenog i bob mil o filltiroedd.

Graff: nifer cyfartalog (per 1000 milltir) cyrff draenogod ar y ffyrdd yng Nghymru 1989-91

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 'Edrych Drwy Wydrau lledrith', Christopher Davies.
  2. 2.0 2.1 Duff Hart-Davies, Fauna Britannica (2002)
  3. Llafar Gwlad 143, Chwefror 2019
  4. 4.0 4.1 D Pickering, Cassell’s Dictionary of Superstitions (1995)
  5. 5.0 5.1 Y Parch DG Williams, Casgliad o Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, Cyfansoddiadau Eisteddfod Gen. Llanelli (1895)
  6. Rev. Elias Owen, Welsh Folk-lore (1888)
  7. William Davies, Casgliad o Len-Gwerin Meirion, Cyfansoddiadau Eisteddfod Gen. Blaenau Ffestiniog (1898)
  8. Corbett, G. a Harris, S. (2001) Handbook of British Mammals
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.